OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1895 (Cy. 194)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1895 (Cy. 194)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014
Gwnaed 16 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 18 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 31 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2. Mae Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013([3]) wedi eu dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2014
([1]) 1998 p.30. Diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm 2003 (p.1), adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) ac Atodlen 7 iddi, adran 257 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) ac adran 76 o Ddeddf Addysg 2011 (p.21).
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaethau a awdurdodir gan is-adrannau (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 hefyd i swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a), (c) a (k) fod yn arferadwy yn gydredol â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).